bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 13
Acts 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
1
Yr oedd yn Antiochia yn yr eglwys a oedd yno broffwydi ac athrawon — Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Gyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
2
Ac a hwy’n gwasanaethu’r Arglwydd ac yn ymprydio, fe ddywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Farnabas a Saul i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.”
3
Yna wedi ymprydio a gweddïo a dodi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwynt.
4
Hwynt-hwy, felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, aethant i lawr i Selewcia, ac oddiyno hwylio i Gyprus;
5
ac wedi cyrraedd Salamis dechreuasant gyhoeddi gair Duw yn synagogau’r Iddewon. (Yr oedd ganddynt Ioan hefyd, yn gynorthwywr.)
6
Ac wedi teithio trwy’r holl ynys hyd Baffus cawsant ryw ŵr o ddewin, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bariesu,
7
yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallgar. Galwodd hwn Farnabas a Saul ato, a mynnodd gael clywed gair Duw;
8
ond eu gwrthsefyll a wnâi Elymas, y dewin (felly y cyfieithir ei enw), a cheisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddiwrth y ffydd.
9
Eithr Saul (neu Paul), wedi ei lenwi â’r Ysbryd Glân, a syllodd arno,
10
a dywedyd, “Ti, sy’n llawn o bob twyll a phob dichell, mab diafol, gelyn popeth sy iawn, oni pheidi di â gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd?
11
Dyma law’r Arglwydd arnat ti yn awr, a thi fyddi ddall heb weled yr haul am dymor.” Ac yn y fan syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a than ymdroi o’i gwmpas ceisiai rywrai i roi llaw iddo.
12
Yna pan welodd y rhaglaw yr hyn a fu, fe gredodd, yn fawr ei syndod wrth y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.
13
Wedi hwylio ymaith o Baffus daeth Paul a’i gymdeithion i Berga ym Mhamffylia; a gadawodd Ioan hwynt, a dychwelodd i Gaersalem.
14
Ond teithiasant hwy o Berga a chyrraedd Antiochia Pisidia; a myned i’r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd.
15
Ac wedi’r darllen o’r Gyfraith a’r Proffwydi, fe anfonodd yr archsynagogwyr atynt, gan ddywedyd, “Frodyr, od oes gennych air o anogaeth i’r bobl, dywedwch ef.”
16
A chyfododd Paul, ac amneidio â’i law, a dywedyd, “Wŷr Israel a chwi sy’n ofni Duw, gwrandewch.
17
Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, a’r bobl a ddyrchafodd yn ystod eu trigias yng ngwlad yr Aifft, ac â braich ddyrchafedig y dug hwynt allan
18
ac wedi iddo ymddwyn â hwynt ddeugain mlynedd yn y diffeithwch,
19
fe ddinistriodd saith genedl yng ngwlad Canaan, a rhoddi eu tir hwynt yn etifeddiaeth iddynt;
20
hyn mewn rhyw bedwar can mlynedd a hanner. Ac wedi hynny rhoddes farnwyr hyd Samwel broffwyd.
21
Ac yna ceisiasant frenin, a rhoddes Duw iddynt Saul, fab Cis, gŵr o lwyth Beniamin, am ddeugain mlynedd;
22
ac fe’i diswyddodd ef, a chyfodi Dafydd iddynt yn frenin, ac iddo ef y tystiolaethodd, gan ddywedyd, ‘Cefais Ddafydd, fab Iesse, yn ŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys.’
23
O had hwn y dug Duw yn ôl ei addewid waredwr i Israel, Iesu,
24
ac Ioan wedi cyhoeddi eisoes o flaen ei ddyfod fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25
Ac wrth fod Ioan yn cyflawni ei yrfa, fe ddywedai, ‘Yr hyn y tybiwch fy mod i, nid ydwyf fi; eithr dyma fe’n dyfod ar fy ôl i, ac nid wyf deilwng i ddatod yr esgidiau am ei draed.’
26
Frodyr, meibion cenedl Abraham a’r rhai yn eich plith sy’n ofni Duw, i ni y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon.
27
Canys trigolion Caersalem a’u llywodraethwyr, heb adnabod hwn ac ymadroddion y proffwydi, a ddarllenir bob Saboth, trwy ei farnu cyflawnasant hwynt,
28
a heb gael un achos marwolaeth ceisiasant gan Bilat ei ladd;
29
ac wedi iddynt gwblhau popeth a oedd yn ysgrifenedig amdano, fe’i disgynasant ef oddiar y pren a’i ddodi mewn bedd.
30
A Duw a’i cyfododd ef o feirw;
31
ac fe’i gwelwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddeuthai i fyny gydag ef o Galilea i Gaersalem, y rhai sydd yn awr yn dystion amdano i’r bobl.
32
A ninnau, newydd da a draethwn i chwi am yr addewid a wnaethpwyd i’r tadau, ei llwyr gyflawni gan Dduw i’n plant trwy gyfodi Iesu,
33
megis y mae’n ysgrifenedig yn yr ail Salm, Mab i mi ydwyt ti; myfi, heddiw y’th genhedlais.
34
Ac am ei gyfodi ganddo o feirw, heb ei fod mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd: Rhoddaf i chwi ddilys dduwioldeb Dafydd.
35
Oblegid eto mewn Salm arall y dywed, Ni roddi i’th Sant weled llygredigaeth.
36
Canys Dafydd, wedi iddo yn ei oes ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a hunodd ac a ddodwyd gyda’i dadau ac a welodd lygredigaeth;
37
eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth.
38
Bydded hysbys, felly, i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau,
39
ac oddiwrth yr holl bethau na allwyd eich rhyddhau oddiwrthynt trwy gyfraith Moesen y rhyddheir trwy hwn bawb a gredo.
40
Gwyliwch, ynteu, na ddêl i’ch erbyn yr hyn a ddywedwyd yn y proffwydi:
41
Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a darfydded amdanoch; canys gweithred yr wyf fi yn ei gwneuthur yn eich dyddiau chwi, gweithred na chredwch ddim ynddi, er ei llwyr fynegi i chwi.”
42
Ac a hwynt yn myned allan, deisyfai’r bobl arnynt lefaru’r pethau hyn wrthynt y Saboth nesaf.
43
Ac wedi gollwng y gynulleidfa canlynodd llawer o’r Iddewon a’r proselytiaid crefyddol Baul a Barnabas, a llefarant hwythau wrthynt, a’u hannog i lynu wrth ras Duw.
44
A’r Saboth dilynol ymgynullodd yr holl ddinas bron i glywed gair Duw.
45
A phan welodd yr Iddewon y torfeydd fe’u llannwyd o genfigen, a dechreuasant wrthddwedyd yr hyn a leferid gan Baul, ai ddifrïo.
46
Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy, a dywedyd, “Rhaid oedd llefaru gair Duw yn gyntaf i chwi; bellach, gan eich bod yn ei wrthod ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, dyma ni’n troi at y Cenhedloedd.
47
Canys hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni: Gosodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd i fod ohonot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaear.”
48
A phan glywsant, bu lawen gan y cenhedloedd, a gogoneddent air Duw, a chredasant — gynifer ag a oedd yn gymwys i fywyd tragwyddol;
49
a thaenid gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad.
50
Ond cyffroes yr Iddewon y gwragedd crefyddol bonheddig a gwŷr blaenaf y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a’u bwrw allan o’u gororau hwynt.
51
Hwythau, ysgydwasant y llwch oddiar eu traed yn eu herbyn, a deuthant i Iconium.
52
A llenwid y disgyblion â llawenydd ac â’r Ysbryd Glân.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28