bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 15
Acts 15
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
A daeth rhai i lawr o Iwdea a dechrau dysgu’r brodyr: “Onid enwaedir arnoch yn ôl defod Moesen, ni ellir eich cadw.”
2
A chan fod ymryson ac ymddadlau nid bychan rhwng Paul a Barnabas a hwythau, penderfynwyd i Baul a Barnabas a rhai eraill ohonynt fynd i fyny at yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem ynghylch y cwestiwn yma.
3
Felly danfonwyd hwynt gan yr eglwys, a theithient trwy Phoenice a Samaria, gan adrodd hanes troi’r cenhedloedd, a pheri mawr lawenydd i’r holl frodyr.
4
Ac wedi iddynt gyrraedd Caersalem derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt.
5
Ond cyfododd rhai o sect y Phariseaid — rhai a oedd wedi credu — gan ddywedyd bod yn rhaid iddynt enwaedu, ac erchi cadw deddf Moesen.
6
Ymgynullodd yr apostolion a’r henuriaid i weld ynghylch y mater yma.
7
Ac wedi bod ymddadlau mawr, dywedodd Pedr wrthynt, “Frodyr, gwyddoch chwi i Dduw er y dyddiau cyntaf ddewis yn eich plith fod i’r Cenhedloedd glywed gair yr efengyl trwy fy ngenau i a chredu,
8
a’r Duw a ŵyr galonnau a ddug dystiolaeth iddynt trwy roddi iddynt hwy yr Ysbryd Glân megis i ninnau,
9
ac ni wahaniaethodd ddim rhyngom ni a hwythau pan burodd eu calonnau hwynt trwy ffydd.
10
Yn awr, ynteu, paham y rhowch brawf ar Dduw; — dodi ar warr y disgyblion iau na allodd ein tadau na ninnau mo’i dwyn?
11
eithr credwn yr un fath â hwythau, mai trwy ras yr Arglwydd Iesu y’n cadwyd.”
12
A thawodd yr holl liaws, a gwrandawent ar Farnabas a Phaul yn mynegi gymaint a wnaethai Duw o arwyddion a rhyfeddodau ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.
13
Ac wedi iddynt hwythau dewi atebodd Iago, gan ddywedyd, “Frodyr, gwrandewch arnaf fi.
14
Mynegodd Simeon y modd y gofalodd Duw gyntaf gael o blith y Cenhedloedd bobl ar ei enw.
15
Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwyd, megis y mae’n ysgrifenedig:
16
Wedi hyn y dychwelaf, ac adeiladaf drachefn babell syrthiedig Dafydd, a’i hadfeilion a adeiladaf drachefn, a chyweiriaf hi o newydd,
17
fel y chwilio’r rhelyw o ddynion am yr Arglwydd, a’r holl genhedloedd y rhoddwyd fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, gan wneuthur y pethau hyn
18
yn hysbys erioed.
19
Felly fy marn i yw na ddaliom i boeni y rhai o blith y Cenhedloedd a dry at Dduw,
20
eithr ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw oddiwrth offrymau halogedig y delwau ac oddiwrth anniweirdeb ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth waed;
21
canys y mae i Foesen er yr oesau cyntaf ym mhob dinas rai sy’n ei bregethu, ac yr ydys yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.”
22
Yna penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid ynghyd â’r holl eglwys ethol gwŷr o’u nifer a’u hanfon i Antiochia gyda Phaul a Barnabas; sef Iwdas, a elwid Barsabbas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y brodyr;
23
a rhoi llythyr yn eu llaw: “Y brodyr o apostolion a henuriaid, at y brodyr sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Chilicia, henffych well.
24
Oherwydd inni glywed i rai ohonom eich cythryblu ac ansefydlu eich meddyliau â geiriau, heb gael ohonynt orchymyn gennym ni,
25
penderfynasom yn unfryd ethol gwŷr a’u hanfon atoch gyda’n hanwyliaid, Barnabas a Phaul,
26
dynion a gysegrodd eu bywyd dros enw ein Harglwydd Iesu Grist.
27
Anfonwn gan hynny Iwdas a Silas, i fynegi, hwythau, yr un pethau ar air.
28
Gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau na ddodid arnoch ddim ychwaneg o faich, oddieithr y pethau anhepgor hyn;
29
ymgadw oddiwrth yr hyn a aberthwyd i ddelwau ac oddiwrth waed ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth anniweirdeb; o ymochel rhag y pethau hyn bydd yn dda arnoch. Yn iach.”
30
Felly hwythau, wedi eu gollwng, deuthant i lawr i Antiochia, a chynullasant y lliaws a throsglwyddo’r llythyr;
31
ac wedi ei ddarllen bu lawen ganddynt am yr anogaeth.
32
Iwdas hefyd a Silas, a hwythau’n broffwydi, anogasant y brodyr trwy lawer gair a’u cadarnhau.
33
Ac wedi iddynt dreulio ysbaid gollyngwyd hwynt mewn tangnefedd gan y brodyr at y sawl a’u danfonodd.
35
Eithr tariodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu, ynghyd ag eraill lawer, air yr Arglwydd.
36
Wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Farnabas, “Dychwelwn yn awr i ymweled â’r brodyr ym mhob dinas y cyhoeddasom air yr Arglwydd, i weld sut y mae arnynt.”
37
A dymunai Barnabas gymryd gyda hwynt Ioan, a elwid Marc;
38
eithr hawliai Paul, am un a gefnodd arnynt ym Mhamffylia, ac nad aethai gyda hwynt at eu gwaith, na châi hwnnw fod gyda hwynt.
39
A chododd diflastod, nes ymwahanu ohonynt â’i gilydd; a chymerth Barnabas Farc gydag ef a hwylio ymaith i Gyprus.
40
Eithr dewis Silas a wnaeth Paul, ac aeth ymaith, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr;
41
a theithiai drwy Syria a Chilicia, gan gadarnhau’r eglwysi.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28