bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 18
Acts 18
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Wedi hynny fe ymadawodd o Athen, a dyfod i Gorinth.
2
A daeth o hyd i ryw Iddew, a’i enw Acwila, o Bontus o ran cenedl, gŵr oedd newydd ddyfod o’r Eidal gyda’i wraig, Priscila, oherwydd gorchymyn Clawdius i’r holl Iddewon ymadael o Rufain; ac aeth atynt,
3
ac am ei fod o’r un grefft arhosai gyda hwynt, a gweithient. (Gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu crefft.)
4
A siaradai yn y synagog bob Saboth, a cheisiai berswadio Iddewon a Groegiaid.
5
A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Facedonia yr oedd Paul yn ymglymedig wrth y gair, yn dwys dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Crist.
6
Ac a hwy’n gwrthsefyll a chablu, fe ysgydwodd ei ddillad a dywedyd wrthynt, “Ar eich pen chwi y byddo’ch gwaed chwi; glân ydwyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.”
7
A symudodd oddiyno ac aeth i dŷ un, a’i enw Titus Iwstus, a addolai Dduw; yr oedd ei dŷ yn un â’r synagog.
8
Ond credodd Crispus, yr archsynagogydd, ynghyd â’i holl deulu, yn yr Arglwydd, a llawer o’r Corinthiaid wrth glywed a gredai ac a fedyddid.
9
A dywedodd yr Arglwydd liw nos trwy weledigaeth wrth Baul, “ Paid ag ofni, eithr dal i lefaru ac na thaw;
10
canys yr wyf fi gyda thi, ac nid ymesyd neb arnat ti i’th ddrygu, canys pobl lawer sydd i mi yn y ddinas hon.”
11
Ac fe ymgartrefodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith air Duw.
12
A phan oedd Galio yn rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a’i ddwyn ger bron y frawdle,
13
gan ddywedyd, “Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn groes i’r Gyfraith.”
14
A phan oedd Paul ar agoryd ei enau, fe ddywedodd Galio wrth yr Iddewon, “Pe buasai ryw gamwedd neu drosedd ysgeler, Iddewon, rhesymol fuasai imi ymddwyn â chwi;
15
ond os cwestiynau y sydd ynghylch ymadrodd ac enwau a’ch cyfraith chwi, edrychwch eich hunain. Ni chwenychaf fi fod yn farnwr am y pethau hyn.”
16
Ac fe’u gyrrodd hwynt oddiwrth y frawdle.
17
A chymerasant afael bawb yn Sosthenes, yr archsynagogydd, a’i guro o flaen y frawdle; ac ni faliai Galio ddim am y pethau hyn.
18
Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi canu’n iach i’r brodyr fe fordwyodd ymaith i Syria, a Phriscila ac Acwila gydag ef, wedi iddo eillio’i ben yng Nghenchreae am fod arno adduned.
19
A chyraeddasant Effesus, ac fe’u gadawodd hwynt yno, ac aeth yntau i mewn i’r synagog ac annerch yr Iddewon.
20
A phan ofynasant iddo aros dros amser hwy, ni chydsyniodd;
21
eithr wedi canu’n iach a dywedyd, “Dychwelaf yn fy ôl atoch, os Duw a’i myn,” hwyliodd o Effesus.
22
Ac wedi cyrraedd Cesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys; yna aeth i lawr i Antiochia,
23
ac wedi treulio peth amser aeth ymaith, gan deithio trwy wlad Galatia a Phrygia o’r bron, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
24
A daeth i Effesus ryw Iddew, a’i enw Apolos, Alecsandriad o enedigaeth, gŵr diwylliedig, galluog yn yr ysgrythurau.
25
Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd llefarai a dysgai yn fanwl y pethau am yr Iesu, gan wybod yn unig am fedydd Ioan.
26
Dechreuodd hwn hefyd lefaru’n hy yn y synagog; a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt ac esbonio iddo Ffordd Dduw yn fanylach.
27
A chan y dymunai fynd drosodd i Achaia, anogodd y brodyr ef, a sgrifennu at y disgyblion i’w roesawu. Ac wedi iddo gyrraedd cynorthwyodd lawer trwy ras ar y rhai a gredasai.
28
Canys â’i holl egni fe lwyr ddymchwelai’r Iddewon, gan brofi ar gyhoedd trwy’r ysgrythurau mai Iesu oedd y Crist.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28