bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 9
Acts 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
A Saul eto’n anadlu bygythion a lladdedigaeth yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, fe aeth at yr archoffeiriad,
2
a cheisiodd ganddo lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os câi ef rywrai o deulu’r Ffordd, yn wŷr a gwragedd, y dygai hwynt yn gaeth i Gaersalem.
3
Ac ar ei ffordd bu iddo agoshau at Ddamascus, ac yn ddisymwth fflachiodd o’i gwmpas oleuni o’r nef;
4
syrthiodd yntau ar lawr, a chlywodd lais yn dywedyd wrtho, “Saul, Saul, paham y’m herlidi?”
5
Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ebr yntau, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid;
6
eithr cyfod a dos i mewn i’r ddinas, ac fe ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.”
7
A safai’r gwŷr a gydymdeithiai ag ef yn fud, yn clywed y llais eithr heb weled neb.
8
A chyfododd Saul oddiar lawr, ac a’i lygaid yn agored, ni welai ddim; a dygasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.
9
A bu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
10
Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus a’i enw Ananias, ac fe ddywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.”
11
Ac meddai’r Arglwydd wrtho, “Cyfod, dos i’r ystryd a elwir Union, a chais yn nhŷ Iwdas un o Darsus a’i enw Saul; canys y mae’n gweddïo, wel di,
12
ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananias yn dyfod i mewn ac yn dodi ei ddwylo arno, fel y caffai ei olwg yn ôl.”
13
Ac atebodd Ananias, “Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr yma, gymaint drwg a wnaeth i’th saint yng Nghaersalem;
14
yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriaid i rwymo pawb sy’n galw ar dy enw di.”
15
A dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di, canys llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw ger bron y cenhedloedd a’r brenhinoedd, a cher bron meibion Israel;
16
canys dangosaf fi iddo pa faint sy raid iddo’i ddioddef dros fy enw i.”
17
Aeth Ananias ymaith ac aeth i mewn i’r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno fe ddywedodd, “Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd, — Iesu, a ymddangosodd iti ar y ffordd y deuthost, — fel y ceffych dy olwg yn ôl a’th lanw â’r Ysbryd Glân.”
18
Ac yn y fan syrthiodd megis cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl, a chyfododd ac fe’i bedyddiwyd,
19
a chymerth luniaeth ac ymgryfhaodd. A bu gyda’r disgyblion yn Namascus rai dyddiau,
20
ac yn y fan dechreuodd gyhoeddi’r Iesu yn y synagogau, mai dyma Fab Duw.
21
A synnai pawb a’i clywai, a dywedyd, “Onid hwn yw’r un a ddifrododd yng Nghaersalem y rhai a alwai ar yr enw yma, ac onid i hyn y deuthai yma, i’w dwyn yn gaeth o flaen yr archoffeiriaid?”
22
Ond Saul a ymgadarnhâi fwyfwy, ac a ddyrysai’r Iddewon oedd yn byw yn Namascus drwy brofi mai dyma’r Eneiniog.
23
Ac ymhen talm o ddyddiau cydfwriadodd yr Iddewon ei ladd;
24
ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Gwylient hyd yn oed y pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef;
25
ond cymerth ei ddisgyblion ef liw nos, a’i ollwng i lawr drwy’r mur, gan ei ostwng mewn basged.
26
Ac wedi cyrraedd Caersalem ceisiai ymwasgu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnai ef, heb gredu ei fod yn ddisgybl.
27
Eithr Barnabas a gymerth afael ynddo, a’i ddwyn at yr apostolion, ac adroddodd iddynt pa fodd y gwelsai’r Arglwydd ar y ffordd ac iddo lefaru wrtho, a pha fodd yn Namascus y traethodd yn hy yn enw Iesu.
28
A bu gyda hwynt yn mynd i mewn ac allan yng Nghaersalem, gan draethu’n hy yn enw yr Arglwydd,
29
ac fe lefarai ac ymddadleuai gyda’r Helenistiaid; hwythau, ceisient ei ladd ef.
30
A phan wybu’r brodyr, dygasant ef i lawr i Gesarea, a’i anfon ymaith i Darsus.
31
Cafodd yr eglwys, ynteu, drwy holl Iwdea a Galilea a Samaria heddwch i ymsefydlogi, a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, lluosogai.
32
A digwyddodd i Bedr, ac yntau’n mynd ar daith heibio i bawb, ddyfod i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda.
33
A chafodd yno ryw ddyn, a’i enw Aeneas, oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei wely, yn barlysedig.
34
A dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cyfod, a thanna dy wely.” Ac yn y fan cyfododd.
35
A gwelwyd ef gan bawb a drigai yn Lyda a Saron, a throesant at yr Arglwydd.
36
Yr oedd yn Ioppa ryw ddisgybles, a’i henw Tabitha, yr hyn o’i esbonio yw’r gair Dorcas; yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o wneuthur elusenau.
37
Ac yn y dyddiau hynny y clafychodd, a bu farw; ac wedi ei golchi rhoesant hi yn y llofft.
38
A chan fod Lyda yn agos i Ioppa, wedi i’r disgyblion glywed bod Pedr yno, anfonasant ddau ŵr ato i ddeisyf arno, “Nac oeda ddyfod drwodd hyd atom.”
39
A chyfododd Pedr ac aeth gyda hwynt; ac wedi iddo gyrraedd dygasant ef i fyny i’r llofft, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos yr holl grysau a’r gynau a wnaethai Dorcas, pan oedd yn eu plith.
40
A bwriodd Pedr bawb allan a phenlinio a gweddïo, a chan droi at y corff fe ddywedodd, “Tabitha, cyfod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Bedr, cododd yn ei heistedd.
41
Rhoddes yntau law iddi a’i chyfodi, ac wedi iddo alw y saint a’r gwragedd gweddwon fe’i cyflwynodd hi iddynt yn fyw.
42
Ac aeth hyn yn hysbys drwy holl Ioppa, a chredodd llawer yn yr Arglwydd.
43
Ac arhosodd dalm o ddyddiau yn Ioppa gyda rhyw Simon, barcer.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28