bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 19
Acts 19
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A thra oedd Apolos yng Nghorinth y tramwyodd Paul drwy’r parthau uchaf, a dyfod i Effesus, a chael rhai disgyblion;
2
ac fe ddywedodd wrthynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân, pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Ond ni chlywsom hyd yn oed a oes Ysbryd Glân.”
3
Dywedodd yntau, “I beth felly y’ch bedyddiwyd?” A dywedasant hwythau, “I fedydd Ioan.”
4
A dywedodd Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, a dywedai wrth y bobl am yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl am iddynt gredu ynddo ef, hynny yw yn yr Iesu.”
5
Ac wedi iddynt glywed, bedyddiwyd hwynt i enw yr Arglwydd Iesu;
6
ac wedi i Baul ddodi ei ddwylo arnynt fe ddaeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreuasant lefaru â thafodau, a phroffwydo.
7
A thua deuddeg gŵr oeddynt i gyd.
8
Ac aeth i mewn i’r synagog a llefarai’n hy dros dri mis, gan siarad a cheisio perswadio ynghylch teyrnas Dduw.
9
Ond gan fod rhai yn ymgyndynnu ac yn anghredu, gan ddifrïo’r Ffordd yng ngŵydd y lliaws, ymneilltuo a wnaeth oddiwrthynt, a gwahanu ei ddisgyblion; a siaradai beunydd yn ysgol Tyrannus.
10
A hyn a fu am ddwy flynedd, nes i bawb a oedd yn trigo yn Asia glywed gair yr Arglwydd, Iddewon a Groegiaid.
11
A grymusterau anghyffredin a wnâi Duw trwy law Paul,
12
hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiar ei groen ef neisiedi ac arffedogau, ac fe ymadawai eu clefydau oddi wrthynt, ac âi’r ysbrydion drwg allan.
13
A cheisiodd rhai o’r Iddewon a âi o gylch, swyngyfareddwyr, enwi uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, “Tynghedaf chwi trwy yr Iesu y mae Paul yn ei bregethu.”
14
Ac yr oedd i ryw Scewas, archoffeiriad Iddewig, saith mab a wnâi hyn.
15
Ond atebodd yr ysbryd drwg, a dywedyd wrthynt, “Yr Iesu a adwaen, a Phaul, gwn amdano, ond chwi, pwy ydych?”
16
Ac fe lamodd y dyn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo arnynt, a’u meistroli i gyd, a gyrru arnynt, hyd nes iddynt ffoi allan o’r tŷ hwnnw yn noeth ac archolledig.
17
A daeth hyn yn hysbys i’r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn trigo yn Effesus, a syrthiodd ofn arnynt oll, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu.
18
A deuai llawer o’r rhai a gredasai, gan lwyr gyffesu ar gyhoedd eu defodau.
19
A llawer o’r rhai a fu’n ymarfer â dewiniaeth, casglasant eu llyfrau a’u llosgi yng ngŵydd pawb; a bwriasant eu gwerth hwynt, ac fe’i cawsant yn hanner can mil o arian.
20
Mor gadarn yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu a chryfhau!
21
A phan gyflawnwyd y pethau hyn, fe roes Paul ei fryd ar dramwy trwy Facedonia ac Achaia, ac yna cyrchu i Gaersalem; ac meddai, “Wedi i mi fod yno rhaid i mi weled Rhufain hefyd.”
22
Ac anfonodd i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, eithr tariodd ef ei hun am dymor, yn Asia.
23
A bu yn ystod y cyfnod hwnnw gynnwrf nid bychan ynghylch y Ffordd.
24
Canys rhyw ŵr, a’i enw Demetrius, gof arian, trwy wneuthur delwau arian o Artemis, a barai i’w grefftwyr waith lawer;
25
fe gasglodd y rhai hyn ynghyd, gyda’r gweithwyr ar bethau o’r un fath, a dywedodd: “Wŷr, chwi wyddoch mai o’r fasnach hon y daw ein ffyniant ni,
26
a gwelwch a chlywch nad yn Effesus yn unig eithr bron drwy holl Asia yr enillodd y Paul hwn dyrfa fawr, a’u troi hwynt, drwy ddywedyd, ‘y duwiau o waith dwylo, nid duwiau monynt.’
27
Ac nid yn unig y mae perigl y daw dirmyg ar ein galwedigaeth, ond hefyd y cyfrifir cysegr y dduwies fawr Artemis yn ddiddim a hyd yn oed yr amddifedir hi o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.”
28
A phan glywsant aethant yn llawn o ddicter, a gweiddi gan ddywedyd, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”
29
A llannwyd y ddinas â’u cythrwfl, a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cydymdeithion Paul.
30
A mynnai Paul fynd ger bron y bobl, ond ni adai’r disgyblion iddo.
31
A rhai hyd yn oed o’r Asiarchiaid, a hwy’n gyfeillion iddo, a ddanfonodd ato i ddymuno arno na fentrai i’r chwareufa.
32
Yn wir, gwaeddai rhai unpeth ac eraill beth arall; canys yr oedd y gynulleidfa yn blith drafflith, ac ni wyddai’r rhan fwyaf am ba achos y deuthent ynghyd.
33
A thybiodd rhai o’r dyrfa mai Alecsander oedd, gan i’r Iddewon ei wthio ymlaen, a dymunai yntau, Alecsander, wedi chwifio’i law, ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.
34
Ond wedi iddynt wybod mai Iddew oedd, un llef a gyfodwyd gan bawb, a gwaeddent am oddeutu dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”
35
Eithr wedi i’r Ysgrifennydd lonyddu’r dorf, medd ef, “Wŷr Effesus, pwy yn y byd, tybed, sydd heb wybod bod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr a’r peth a syrthiodd o’r nef?
36
Felly, a’r pethau hyn yn anwadadwy, chwi ddylech fod yn llonydd heb wneuthur dim yn fyrbwyll.
37
Canys dygasoch y gwŷr hyn, a hwythau heb fod yn ysbeilwyr temlau nac yn cablu ein duwies ni.
38
Od oes, gan hynny, ddim cyhuddiad gan Demetrius a’r gweithwyr sydd gydag ef yn erbyn neb, cynhelir dyddiau brawdlys ac y mae rhaglawiaid; achwynent, bawb yn erbyn ei gilydd.
39
Eithr os ceisiwch ddim heblaw hynny, yn y gynulleidfa gyfreithlon y penderfynir ef.
40
Yn wir, y mae perigl y’n cyhuddir o derfysg ynglŷn â heddiw gan nad oes gennym un achos, ac am hyn ni allwn ni roddi cyfrif am yr ymdyrru yma.” Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollwng y gynulleidfa a wnaeth.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28