bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Acts 14
Acts 14
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
Ac yn Iconium yr un modd aethant i synagog yr Iddewon, a llefaru yn y fath fodd ag y credodd lliaws mawr o Iddewon a Groegiaid.
2
Ond yr Iddewon na chredasant, cyffroi a llygru meddyliau’r Cenhedloedd a wnaethant yn erbyn y brodyr.
3
Felly treuliasant gryn amser, gan lefau’n hy am yr Arglwydd, yr hwn a dystiai i’r gair am ei ras trwy beri gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy.
4
A rhannwyd lliaws y ddinas, a rhai oedd gyda’r Iddewon a rhai gyda’r apostolion.
5
A phan fu mudiad ymhlith y Cenhedloedd a’r Iddewon ynghyd â’u harweinwyr i’w treisio a’u llabyddio,
6
wedi dyfod i wybod diangasant i ddinasoedd Lycaonia, Lystra a Derbe a’r cylch,
7
ac yno yr oeddynt yn cyhoeddi’r newydd da.
8
Ac yr oedd yn eistedd yn Lystra ryw ŵr diffrwyth ei draed, cloff o’r bru, na cherddasai erioed.
9
Yr oedd hwn yn gwrando ar Baul yn llefaru; yntau, wedi syllu arno a gweled bod ganddo ffydd i gael iechyd,
10
dywedodd â llais uchel, “Saf ar dy draed yn syth.” Ac fe neidiodd i fyny, a dechreuodd gerdded.
11
A phan welodd y torfeydd yr hyn a wnaethai Paul, codasant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, “Y duwiau ar lun dynion a ddaeth i, lawr atom.”
12
A galwent Farnabas yn Iau, a Phaul yn Ferchyr, am mai ef oedd y siaradwr blaenaf.
13
A dug offeiriad yr Iau a oedd o flaen y ddinas deirw a thorchau at y pyrth, ac arofunai aberthu gyda’r torfeydd.
14
Ond pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Phaul, rhwygasant eu dillad a neidio allan i blith y dyrfa, gan weiddi
15
a dywedyd, “Wŷr, paham y gwnewch hyn? Dynion ydym ni hefyd, un anian â chwithau; cyhoeddi yr ydym newydd da i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a chwbl sydd ynddynt.
16
Hwn yn yr oesau a fu, gadodd i’r holl genhedloedd rodio eu ffyrdd eu hunain.
17
Ac eto mewn gwneuthur daioni nis gadawodd ei hun heb dyst, gan roddi glaw i chwi o’r nef a thymhorau ffrwythlon, a llenwi’ch calonnau â lluniaeth a llawenydd.”
18
Er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt.
19
Ond daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium, ac wedi ennill y torfeydd lluchiasant gerrig a llusgo Paul allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.
20
Ond wedi i’r disgyblion ei amgylchynu, cyfododd ac aeth i mewn i’r ddinas. A thrannoeth aeth ymaith gyda Barnabas i Dderbe.
21
Ac wedi cyhoeddi’r newydd da i’r ddinas honno, a gwneuthur llawer yn ddisgyblion, dychwelasant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia,
22
gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u hannog i lynu wrth y ffydd, a dywedyd mai “trwy orthrymderau lawer y mae i ni fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
23
Ac etholasant henuriaid iddynt ymhob eglwys, ac wedi gweddi ynghyd ag ympryd eu cyflwyno i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
24
Ac wedi teithio trwy Bisidia deuthant i Bamffylia,
25
ac wedi llefaru’r gair ym Mherga aethant i lawr i Attalia,
26
ac oddiyno hwyliasant i Antiochia, lle yr oeddynt wedi eu hymddiried i ras Duw at y gwaith a gyflawnasant.
27
Ac wedi iddynt gyrraedd cynullasant yr eglwys, a mynegi gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i’r Cenhedloedd ddrws ffydd.
28
A threulio amser nid ychydig gyda’r disgyblion.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28