bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 1
Deuteronomy 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 2 →
1
Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o'r tu yma i'r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â'r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab.
2
(Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐Barnea.)
3
A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo ei ddywedyd wrthynt;
4
Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;
5
O'r tu yma i'r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro'r gyfraith hon, gan ddywedyd.
6
Yr ARGLWYDD ein DUW a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:
7
Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i'w holl gyfagos leoedd; i'r rhos, i'r mynydd, ac i'r dyffryn, ac i'r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.
8
Wele, rhoddais y wlad o'ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr ARGLWYDD i'ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i'w had ar eu hôl hwynt.
9
A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:
10
Yr ARGLWYDD eich DUW a'ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.
11
(ARGLWYDD DDUW eich tadau a'ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a'ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!)
12
Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a'ch baich, a'ch ymryson chwi?
13
Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.
14
Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.
15
Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a'u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.
16
A'r amser hwnnw y gorchmynnais i'ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a'i frawd, ac a'r dieithr sydd gydag ef.
17
Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo DUW: a'r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a'i gwrandawaf.
18
Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.
19
A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy'r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD ein DUW i ni: ac a ddaethom i Cades‐Barnea.
20
A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr ARGLWYDD ein DUW yn ei roddi i ni.
21
Wele, yr ARGLWYDD dy DDUW a roddes y wlad o'th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd ARGLWYDD DDUW dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.
22
A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.
23
A'r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth.
24
A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i'r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a'i chwiliasant ef.
25
Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a'i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr ARGLWYDD ein DUW yn ei rhoddi i ni.
26
Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y ARGLWYDD eich DUW.
27
Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch, Am gasáu o'r ARGLWYDD nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i'n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha.
28
I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a'n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
29
Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.
30
Yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn sydd yn myned o'ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;
31
Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y'th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i'r man yma.
32
Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr ARGLWYDD eich DUW,
33
Yr hwn oedd yn myned o'ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a'r dydd mewn cwmwl.
34
A chlybu yr ARGLWYDD lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,
35
Diau na chaiff yr un o'r dynion hyn, o'r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i'ch tadau chwi;
36
Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a'i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i'w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr ARGLWYDD.
37
Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr ARGLWYDD o'ch plegid chwi, gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.
38
Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a'i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.
39
Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a'ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a'i perchenogant hi.
40
Trowch chwithau, ac ewch i'r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.
41
Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein DUW i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i'r mynydd.
42
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion
43
Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr ARGLWYDD; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i'r mynydd.
44
A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i'ch cyfarfod chwi; ac a'ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn, ac a'ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma.
45
A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr ARGLWYDD: ond ni wrandawodd yr ARGLWYDD ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.
46
Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o'r blaen.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34