bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 19
Deuteronomy 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 20 →
1
Pan dorro yr ARGLWYDD dy DDUW ymaith y cenhedloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhoddi eu tir i ti, a'i feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;
2
Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i'w feddiannu.
3
Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.
4
Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef o'r blaen;
5
Megis pan elo un gyda'i gymydog i'r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â'r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o'r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o'r dinasoedd hyn, a byw:
6
Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a'i galon yn llidiog, a'i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a'i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o'r blaen.
7
Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti.
8
A phan helaetho yr ARGLWYDD dy DDUW dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;
9
Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:
10
Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i'th erbyn.
11
Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a'i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o'r dinasoedd hyn:
12
Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw.
13
Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.
14
Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o'r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i'w feddiannu.
15
Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o'r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.
16
Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef;
17
Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr ARGLWYDD, o flaen yr offeiriaid a'r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny.
18
Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;
19
Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i'w frawd: a thyn ymaith y drwg o'th fysg.
20
A'r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.
21
Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→