bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 23
Deuteronomy 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 24 →
1
Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr ARGLWYDD.
2
Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr ARGLWYDD; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr ARGLWYDD.
3
Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr ARGLWYDD; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr ARGLWYDD byth:
4
Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o'r Aifft; ac o achos cyflogi ohonynt i'th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i'th felltithio di.
5
Eto yr ARGLWYDD dy DDUW ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr ARGLWYDD dy DDUW y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr ARGLWYDD dy DDUW dydi.
6
Na chais eu heddwch hwynt, na'u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.
7
Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.
8
Deued ohonynt i gynulleidfa yr ARGLWYDD y drydedd genhedlaeth o'r meibion a genhedlir iddynt.
9
Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg.
10
O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o'r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.
11
Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo'r haul, deued i fewn y gwersyll.
12
A bydded lle i ti o'r tu allan i'r gwersyll; ac yno yr ei di allan.
13
A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.
14
Oherwydd bod yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.
15
Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.
16
Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o'th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.
17
Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.
18
Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW.
19
Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano.
20
Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr ARGLWYDD dy DDUW di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i'w feddiannu.
21
Pan addunedych adduned i'r ARGLWYDD dy DDUW, nac oeda ei thalu: canys yr ARGLWYDD dy DDUW gan ofyn a'i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot.
22
Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot.
23
Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o'th wefusau; megis yr addunedaist i'r ARGLWYDD dy DDUW offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â'th enau.
24
Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un.
25
Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â'th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→