bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 27
Deuteronomy 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 28 →
1
Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i'r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw.
2
A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i'r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch.
3
Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i'r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd ARGLWYDD DDUW dy dadau wrthyt.
4
A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.
5
Ac adeilada yno allor i'r ARGLWYDD dy DDUW, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn.
6
A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr ARGLWYDD dy DDUW; ac offryma arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD dy DDUW.
7
Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW.
8
Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9
A llefarodd Moses a'r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y'th wnaethpwyd yn bobl i'r ARGLWYDD dy DDUW.
10
Gwrando gan hynny ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwna ei orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
11
A gorchmynnodd Moses i'r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd.
12
Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin.
13
A'r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.
14
A'r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel,
15
Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr ARGLWYDD, gwaith dwylo crefftwr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel. A'r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen.
16
Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen.
17
Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen.
18
Melltigedig yw yr hwn a baro i'r dall gyfeiliorni allan o'r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.
19
Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a'r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.
20
Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.
21
Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen.
22
Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.
23
Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.
24
Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.
25
Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen.
26
Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→