bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 7
Deuteronomy 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 8 →
1
Pan y'th ddygo yr ARGLWYDD dy DDUW i mewn i'r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i'w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o'th flaen di, yr Hethiaid, a'r Girgasiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi;
2
A rhoddi o'r ARGLWYDD dy DDUW hwynt o'th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt.
3
Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i'w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i'th fab dithau.
4
Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr ARGLWYDD i'ch erbyn chwi, ac a'th ddifetha di yn ebrwydd
5
Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.
6
Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
7
Nid am eich bod yn lluosocach na'r holl bobloedd, yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi, ac y'ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o'r holl bobloedd
8
Ond oherwydd caru o'r ARGLWYDD chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr ARGLWYDD chwi allan â llaw gadarn, ac a'ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.
9
Gwybydd gan hynny mai yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y DUW ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau;
10
Ac yn talu'r pwyth i'w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i'w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.
11
Cadw gan hynny y gorchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i'w gwneuthur.
12
A bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a'u cadw, a'u gwneuthur hwynt; y ceidw yr ARGLWYDD dy DUW â thi y cyfamod, a'r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i'th dadau di:
13
Ac a'th gâr, ac a'th fendithia, ac a'th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a'th win, a'th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.
14
Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhlith dy anifeiliaid di.
15
Hefyd yr ARGLWYDD a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.
16
Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.
17
Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?
18
Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD dy DDUW i Pharo, ac i'r holl Aifft:
19
Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a'r arwyddion, a'r rhyfeddodau, a'r llaw gadarn, a'r braich estynedig, â'r rhai y'th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW allan: felly y gwna'r ARGLWYDD dy DDUW i'r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.
20
A'r ARGLWYDD dy DDUW hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a'r rhai a ymguddiant rhagot ti.
21
Nac ofna rhagddynt: oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn dy ganol di, yn DDUW mawr, ac ofnadwy.
22
A'r ARGLWYDD dy DDUW a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o'th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
23
Ond yr ARGLWYDD dy DDUW a'u rhydd hwynt o'th flaen di, ac a'u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;
24
Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.
25
Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na'r arian na'r aur a fyddo arnynt, i'w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i'r ARGLWYDD dy DDUW ydyw.
26
Na ddwg dithau ffieidd‐dra i'th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34