bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 6
Deuteronomy 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 7 →
1
Adyma 'r gorchmynion, y deddfau, a'r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i'w meddiannu:
2
Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a'i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a'th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3
Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd ARGLWYDD DDUW dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
4
Clyw, O Israel; yr ARGLWYDD ein DUW ni sydd un ARGLWYDD.
5
Câr di gan hynny yr ARGLWYDD dy DDUW â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth.
6
A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.
7
A hysbysa hwynt i'th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.
8
A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.
9
Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.
10
Ac fe a dderfydd, wedi i'r ARGLWYDD dy DDUW dy ddwyn di i'r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,
11
A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwyta, a'th ddigoni;
12
Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr ARGLWYDD, yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
13
Yr ARGLWYDD dy DDUW a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i'w enw ef y tyngi.
14
Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o'ch amgylch chwi:
15
(Oblegid DUW eiddigus yw yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy fysg di,) rhag i lid yr ARGLWYDD dy DDUW ennyn yn dy erbyn, a'th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.
16
Na themtiwch yr ARGLWYDD eich DUW, fel y temtiasoch ef ym Massa.
17
Gan gadw cedwch orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, a'i dystiolaethau, a'i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti.
18
A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr ARGLWYDD: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi'r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau di;
19
Gan yrru ymaith dy holl elynion o'th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.
20
Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein DUW i chwi?
21
Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a'r ARGLWYDD a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn.
22
Rhoddes yr ARGLWYDD hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a'i holl dŷ, yn ein golwg ni;
23
Ac a'n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i'n tadau ni.
24
A'r ARGLWYDD a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr ARGLWYDD ein DUW, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.
25
A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr ARGLWYDD ein DUW, fel y gorchmynnodd efe i ni.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34