bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 20
Deuteronomy 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 21 →
1
Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, yr hwn a'th ddug di i fyny o dir yr Aifft.
2
A bydd, pan nesaoch i'r frwydr, yna ddyfod o'r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,
3
A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i'r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.
4
Canys yr ARGLWYDD eich DUW sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â'ch gelynion trosoch chwi, ac i'ch achub chwi.
5
A'r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef.
6
A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.
7
A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi.
8
Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i'w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.
9
A bydded, pan ddarffo i'r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.
10
Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch.
11
A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i'r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a'th wasanaethu.
12
Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi.
13
Pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf.
14
Yn unig y benywaid, a'r plant, a'r anifeiliaid, a phob dim a'r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.
15
Felly y gwnei i'r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.
16
Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:
17
Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, y Canaaneaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.
18
Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt, y rhai a wnaethant i'w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW.
19
Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i'w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i'w gosod yn y gwarchglawdd.
20
Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→