bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 32
Deuteronomy 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 33 →
1
Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.
2
Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.
3
Canys enw yr ARGLWYDD a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i'n DUW ni.
4
Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: DUW gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.
5
Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.
6
Ai hyn a delwch i'r ARGLWYDD, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a'th brynwr? onid efe a'th wnaeth, ac a'th sicrhaodd?
7
Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i'th dad, ac efe a fynega i ti; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.
8
Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel.
9
Canys rhan yr ARGLWYDD yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.
10
Efe a'i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll:arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.
11
Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a'u dwg ar ei adenydd;
12
Felly yr ARGLWYDD yn unig a'i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef.
13
Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o'r graig, ac olew o'r graig gallestr;
14
Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.
15
A'r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a'i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
16
A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd‐dra y digiasant ef.
17
Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.
18
Y Graig a'th genhedlodd a anghofiaist ti, a'r DUW a'th luniodd a ollyngaist ti dros gof.
19
Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a'u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a'i ferched.
20
Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.
21
Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â'r peth nid oedd DDUW; digiasant fi â'u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â'r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.
22
Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a'i gynnyrch, ac a wna i sylfeini'r mynyddoedd ffaglu.
23
Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt.
24
Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y llwch.
25
Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a'r wyry hefyd, y plentyn sugno ynghyd â'r gŵr briglwyd.
26
Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i'w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;
27
Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i'w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr ARGLWYDD, a wnaeth hyn oll.
28
Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.
29
O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!
30
Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o'u Craig hwynt, a chau o'r ARGLWYDD arnynt?
31
Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.
32
Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.
33
Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.
34
Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau?
35
I mi y perthyn dial, a thalu'r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.
36
Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o'u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig.
37
Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a'r graig yr ymddiriedasant ynddi,
38
Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod‐offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.
39
Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o'm llaw.
40
Canys codaf fy llaw i'r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth.
41
Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o'm llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i'm caseion.
42
Meddwaf fy saethau â gwaed, (a'm cleddyf a fwyty gig,) â gwaed y lladdedig a'r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn.
43
Y cenhedloedd, llawenhewch gyda'i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a'i bobl ei hun.
44
A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu'r bobl, efe a Josua mab Nun.
45
A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel:
46
A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i'ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.
47
Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i'w feddiannu.
48
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd,
49
Esgyn i'r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.
50
A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl:
51
Oherwydd gwrthryfelasoch i'm herbyn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni'm sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel.
52
Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer; ond yno nid ei, i'r tir yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34