bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 2
Deuteronomy 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 3 →
1
Yna y troesom, ac yr aethom i'r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.
2
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrthyf gan ddywedyd,
3
Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua'r gogledd.
4
A gorchymyn i'r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal.
5
Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o'u tir hwynt gymaint â lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;
6
Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7
Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.
8
Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion‐Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.
9
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o'i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth
10
(Yr Emiaid o'r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
11
Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a'r Moabiaid a'u galwent hwy yn Emiaid.
12
Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o'r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a'u difethasant o'u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr ARGLWYDD iddynt.)
13
Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared.
14
A'r dyddiau y cerddasom o Cades‐Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt.
15
Canys llaw yr ARGLWYDD ydoedd yn eu herbyn hwynt, i'w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
16
A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a'u marw o blith y bobloedd,
17
Lefaru o'r ARGLWYDD wrthyf, gan ddywedyd,
18
Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:
19
A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
20
(Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o'r blaen; a'r Ammoniaid a'u galwent hwy yn Samsummiaid:
21
Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a'r ARGLWYDD a'u difethodd hwynt o'u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
22
Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o'u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;
23
Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a'u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
24
Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a'i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
25
Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a'th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.
26
A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, â geiriau heddwch, gan ddywedyd,
27
Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i'r tu deau nac i'r tu aswy.
28
Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;
29
(Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a'r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i'r wlad y mae yr ARGLWYDD ein DUW yn ei rhoddi i ni.
30
Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir.
31
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a'i wlad o'th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.
32
Yna Sehon a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel yn Jahas.
33
Ond yr ARGLWYDD ein DUW a'i rhoddes ef o'n blaen; ac ni a'i trawsom ef, a'i feibion, a'i holl bobl:
34
Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill.
35
Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom.
36
O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o'r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a'r a ddihangodd rhagom: yr ARGLWYDD ein DUW a roddes y cwbl o'n blaen ni.
37
Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i'r holl leoedd a waharddasai yr ARGLWYDD ein DUW i ni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34