bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 8
Deuteronomy 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 9 →
1
Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau trwy lw.
2
A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.
3
Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a'th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn.
4
Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
5
Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.
6
A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef.
7
Oblegid y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
8
Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;
9
Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o'i mynyddoedd y cloddi bres.
10
Pan fwyteych, a'th ddigoni; yna y bendithi yr ARGLWYDD dy DDUW am y wlad dda a roddes efe i ti.
11
Cadw arnat rhag anghofio yr ARGLWYDD dy DDUW, heb gadw ei orchmynion a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:
12
Rhag wedi i ti fwyta, a'th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;
13
A lluosogi o'th wartheg a'th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o'r hyn oll y sydd gennyt:
14
Yna ymddyrchafu o'th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;
15
Yr hwn a'th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr;
16
Yr hwn a'th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)
17
A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.
18
Ond cofia yr ARGLWYDD dy DDUW: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.
19
Ac os gan anghofio yr anghofi yr ARGLWYDD dy DDUW, a dilyn duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y'ch difethir.
20
Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr ARGLWYDD ar eu difetha o'ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34