bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 17
Deuteronomy 17
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 18 →
1
Nac abertha i'r ARGLWYDD dy DDUW ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr ARGLWYDD dy DDUW yw hynny.
2
Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o'th byrth y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW, gan droseddu ei gyfamod ef,
3
Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i'r haul, neu i'r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais;
4
Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel;
5
Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i'th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.
6
Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.
7
Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i'w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o'th blith.
8
Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i'r lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW:
9
A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.
10
A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o'r lle hwnnw a ddewiso yr ARGLWYDD; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti.
11
Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i'r tu deau nac i'r tu aswy.
12
A'r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr ARGLWYDD dy DDUW, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.
13
A'r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.
14
Pan ddelych i'r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, a'i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o'm hamgylch:
15
Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti.
16
Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i'r Aifft i amlhau meirch; gan i'r ARGLWYDD ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.
17
Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo.
18
A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o'r gyfraith hon mewn llyfr, allan o'r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid.
19
A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr ARGLWYDD ei DDUW, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a'r deddfau hyn, i'w gwneuthur hwynt:
20
Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i'r tu deau nac i'r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a'i feibion yng nghanol Israel.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→