bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 30
Deuteronomy 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 31 →
1
A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a'r felltith, y rhai a roddais o'th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y'th yrrodd yr ARGLWYDD dy DDUW di atynt;
2
A dychwelyd ohonot at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a'th blant, â'th holl galon, ac â'th holl enaid:
3
Yna y dychwel yr ARGLWYDD dy DDUW dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a'th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y'th wasgaro yr ARGLWYDD dy DDUW di.
4
Pe y'th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y'th gasglai yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oddi yno y'th gymerai.
5
A'r ARGLWYDD dy DDUW a'th ddwg i'r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a'i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a'th wna yn amlach na'th dadau.
6
A'r ARGLWYDD dy DDUW a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr ARGLWYDD dy DDUW â'th holl galon, ac â'th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.
7
A'r ARGLWYDD dy DDUW a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a'th erlidiant di.
8
Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr ARGLWYDD, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw.
9
A'r ARGLWYDD dy DDUW a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr ARGLWYDD i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;
10
Os gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion ef a'i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW â'th holl galon, ac â'th holl enaid.
11
Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.
12
Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i'r nefoedd, ac a'i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?
13
Ac nid o'r tu hwnt i'r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i'r tu hwnt i'r môr, ac a'i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?
14
Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i'w wneuthur ef.
15
Wele, rhoddais o'th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:
16
Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y'th amlhaer, ac y'th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.
17
Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a'th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt;
18
Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i'w berchenogi.
19
Galw yr wyf yn dyst i'th erbyn heddiw y nefoedd a'r ddaear, roddi ohonof o'th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a'th had;
20
I garu ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34