bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 21
Deuteronomy 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 22 →
1
Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i'w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a'i lladdodd;
2
Yna aed dy henuriaid a'th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i'r lladdedig.
3
A bydded i'r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o'r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau.
4
A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn.
5
A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW a'u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr ARGLWYDD,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.
6
A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn.
7
A hwy a atebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, ac nis gwelodd ein llygaid.
8
Trugarha wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD, ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy.
9
Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o'th fysg, os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10
Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o'r ARGLWYDD dy DDUW hwynt yn dy law di, a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt;
11
A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol, a'i bod wrth dy fodd, i'w chymryd i ti yn wraig:
12
Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd;
13
A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a'i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr ei di ati, ac y byddi ŵr iddi, a hithau fydd wraig i ti.
14
Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw ohoni, am i ti ei darostwng hi.
15
Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o'r gu a'r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o'r un gas:
16
Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig;
17
Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o'r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.
18
Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt:
19
Yna ei dad a'i fam a ymaflant ynddo, ac a'i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;
20
A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.
21
Yna holl ddynion ei ddinas a'i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.
22
Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a'i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren;
23
Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a'i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: oherwydd melltith DDUW sydd i'r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→