bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 22
Deuteronomy 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 23 →
1
Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i'th frawd.
2
Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef.
3
Ac felly y gwnei i'w asyn ef, ac felly y gwnei i'w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i'th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.
4
Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.
5
Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bawb a'r a wnêl hyn.
6
Pan ddamweinio nyth aderyn i'th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a'r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda'r cywion.
7
Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a'r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.
8
Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i'th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
9
Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.
10
Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.
11
Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.
12
Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.
13
O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu;
14
A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:
15
Yna cymered tad y llances a'i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i'r porth.
16
A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i'r gŵr hwn yn wraig, a'i chasáu y mae efe.
17
Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.
18
A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a'i cosbant ef.
19
A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.
20
Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances:
21
Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a'i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o'th fysg.
22
O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda'r wraig, a'r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.
23
O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi;
24
Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a'u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a'r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o'th fysg.
25
Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a'i threisio o'r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig.
26
Ond i'r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a'i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn:
27
Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.
28
O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a'u dala hwynt:
29
Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.
30
Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34