bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 29
Deuteronomy 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 30 →
1
Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.
2
A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i'w holl weision, ac i'w holl dir;
3
Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a'r rhyfeddodau mawrion hynny:
4
Ond ni roddodd yr ARGLWYDD i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.
5
Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.
6
Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
7
A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i'n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a'u lladdasom hwynt:
8
Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a'i rhoesom yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
9
Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.
10
Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD eich DUW; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a'ch swyddogion, a holl wŷr Israel,
11
Eich plant, eich gwragedd, a'th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr:
12
I fyned ohonot dan gyfamod yr ARGLWYDD dy DDUW, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei wneuthur â thi heddiw:
13
I'th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn DDUW i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
14
Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a'r cynghrair yma;
15
Ond â'r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD ein DUW, ac â'r hwn nid yw yma gyda ni heddiw:
16
(Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a'r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;
17
A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a'u heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)
18
Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr ARGLWYDD ein DUW, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:
19
A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
20
Ni fyn yr ARGLWYDD faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr ARGLWYDD a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r ARGLWYDD a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.
21
A'r ARGLWYDD a'i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.
22
A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a'r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a'i chlefydau, trwy y rhai y mae yr ARGLWYDD yn ei chlwyfo hi;
23
A'i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr ARGLWYDD yn ei lid a'i ddigofaint:
24
Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?
25
Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.
26
Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.
27
Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a'r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
28
A'r ARGLWYDD a'u dinistriodd hwynt o'u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a'u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.
29
Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr ARGLWYDD ein DUW, a'r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i'n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34