bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 15
Deuteronomy 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 16 →
1
Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod.
2
A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i'w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr ARGLWYDD.
3
Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda'th frawd:
4
Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr ARGLWYDD gan fendithio a'th fendithia di, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i'w feddiannu;
5
Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
6
Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
7
Os bydd yn dy fysg di un o'th frodyr yn dlawd o fewn un o'th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd:
8
Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i'w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau.
9
Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw'r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr ARGLWYDD rhagot, a'i fod yn bechod i ti.
10
Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y'th fendithia yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.
11
Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus ac i'th dlawd, yn dy dir.
12
Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a'th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.
13
A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:
14
Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th ysgubor, ac o'th winwryf: o'r hyn y'th fendithiodd yr ARGLWYDD dy DDUW, dod iddo.
15
A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a'th waredu o'r ARGLWYDD dy DDUW: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.
16
Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a'th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:
17
Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i'th forwyn.
18
Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a'r ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19
Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o'th wartheg, neu o'th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i'r ARGLWYDD dy DDUW: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.
20
Gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD, ti a'th deulu.
21
Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i'r ARGLWYDD dy DDUW.
22
O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a'r glân ynghyd a'i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw.
23
Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34