bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 9
Deuteronomy 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 10 →
1
Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;
2
Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac?
3
Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn myned trosodd o'th flaen di yn dân ysol: efe a'u difetha hwynt, ac efe a'u darostwng hwynt o'th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrthyt.
4
Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o'r ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o'th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr ARGLWYDD fi i feddiannu'r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr ARGLWYDD hwynt allan o'th flaen di.
5
Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o'th flaen di, ac er cyflawni'r gair a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
6
Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr ARGLWYDD i ti y tir daionus hwn i'w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.
7
Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr ARGLWYDD dy DDUW yn yr anialwch: o'r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i'r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr ARGLWYDD.
8
Yn Horeb hefyd y digiasoch yr ARGLWYDD; a digiodd yr ARGLWYDDwrthych i'ch difetha.
9
Pan euthum i fyny i'r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais.
10
A rhoddes yr ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys DUW; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa.
11
A bu, ymhen y deugain niwrnod a'r deugain nos, roddi o'r ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.
12
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o'r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
13
A llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.
14
Paid â mi, a mi a'u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a'th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy.
15
A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o'r mynydd, a'r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.
16
Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchmynasai yr ARGLWYDD i chwi.
17
A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a'u teflais hwynt o'm dwylo, ac a'u torrais hwynt o flaen eich llygaid.
18
A syrthiais gerbron yr ARGLWYDD, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD i'w ddigio ef.
19
(Canys ofnais rhag y soriant a'r dig, trwy y rhai y digiodd yr ARGLWYDD wrthych, i'ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y waith honno hefyd.
20
Wrth Aaron hefyd y digiodd yr ARGLWYDD yn fawr, i'w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.
21
Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a'i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i'r afon oedd yn disgyn o'r mynydd.
22
O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau'r blys, yr oeddech yn digio'r ARGLWYDD.
23
A phan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr ARGLWYDD eich DUW: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.
24
Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr ARGLWYDD er y dydd yr adnabûm chwi.
25
A mi a syrthiais gerbron yr ARGLWYDD ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o'r blaen; am ddywedyd o'r ARGLWYDD y difethai chwi.
26
Gweddïais hefyd ar yr ARGLWYDD, a dywedais, ARGLWYDD DDUW, na ddifetha dy bobl, a'th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o'r Aifft â llaw gref.
27
Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:
28
Rhag dywedyd o'r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o'r ARGLWYDD eu dwyn hwynt i'r tir a addawsai efe iddynt, ac o'i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i'w lladd yn yr anialwch.
29
Eto dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â'th estynedig fraich.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34