bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 24
Deuteronomy 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 25 →
1
Pan gymero gŵr wraig, a'i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o'i dŷ.
2
Pan elo hi allan o'i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall:
3
Os ei gŵr diwethaf a'i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a'i rhydd yn ei llaw hi, ac a'i gollwng hi o'i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a'i cymerodd hi yn wraig iddo:
4
Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a'i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr ARGLWYDD; ac na wna i'r wlad bechu, yr hon a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti yn etifeddiaeth.
5
Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
6
Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7
Pan gaffer gŵr yn lladrata un o'i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o'th fysg.
8
Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy.
9
Cofia yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD dy DDUW i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o'r Aifft.
10
Pan fenthycieth i'th gymydog fenthyg dim, na ddos i'w dŷ ef i gymryd ei wystl ef.
11
Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti.
12
Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â'i wystl gyda thi.
13
Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y'th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW.
14
Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o'th frodyr, neu o'th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di:
15
Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr ARGLWYDD yn dy erbyn, a bod pechod ynot.
16
Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17
Na ŵyra farn y dieithr na'r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.
18
Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a'th waredu o'r ARGLWYDD dy DDUW oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19
Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymryd: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bendithio yr ARGLWYDD dy DDUW di yn holl waith dy ddwylo.
20
Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.
21
Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.
22
Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→