bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 16
Deuteronomy 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 17 →
1
Cadw y mis Abib, a chadw Basg i'r ARGLWYDD dy DDUW: canys o fewn y mis Abib y dug yr ARGLWYDD dy DDUW di allan o'r Aifft, o hyd nos.
2
Abertha dithau yn Basg i'r ARGLWYDD dy DDUW, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o'i enw ef yno.
3
Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes.
4
Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o'r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.
5
Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o'th byrth, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti:
6
Ond yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o'i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o'r Aifft.
7
Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW: a'r bore y dychweli, ac yr ei i'th babellau.
8
Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i'r ARGLWYDD dy DDUW; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9
Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo'r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo'r saith wythnos.
10
A chadw ŵyl yr wythnosau i'r ARGLWYDD dy DDUW, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y'th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW.
11
A llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o'i enw ef ynddo.
12
Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13
Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a'th win.
14
A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.
15
Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD: canys yr ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
16
Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr ARGLWYDD yn waglaw.
17
Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr ARGLWYDD dy DDUW yr hon a roddes efe i ti.
18
Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
19
Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
20
Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti.
21
Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hon a wnei i ti.
22
Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD dy DDUW.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34