bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 25
Deuteronomy 25
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 26 →
1
Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i'w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.
2
Ac o bydd y mab drygionus i'w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.
3
Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a'i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4
Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.
5
Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.
6
A bydded i'r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel.
7
Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i'r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i'w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi.
8
Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i'w chymryd hi;
9
Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i'r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd.
10
A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.
11
Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr â'i frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef;
12
Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.
13
Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys, mawr a bychan.
14
Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.
15
Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.
16
Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bob un a wnelo hyn, sef pawb a'r a wnêl anghyfiawnder.
17
Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o'r Aifft:
18
Yr hwn a'th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o'th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe DDUW.
19
Am hynny bydded, pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i'w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→