bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 14
Deuteronomy 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 15 →
1
Plant ydych chwi i'r ARGLWYDD eich DUW: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.
2
Canys pobl sanctaidd wyt ti i'r ARGLWYDD dy DDUW, a'r ARGLWYDD a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3
Na fwyta ddim ffiaidd.
4
Dyma'r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr,
5
Y carw, a'r iwrch, a'r llwdn hydd, a'r bwch gwyllt, a'r unicorn, a'r ych gwyllt, a'r afr wyllt.
6
A phob anifail yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.
7
Ond hyn ni fwytewch, o'r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a'r ysgyfarnog, a'r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi'r ewin, aflan ydynt i chwi.
8
Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi'r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt.
9
Hyn a fwytewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch.
10
A'r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.
11
Pob aderyn glân a fwytewch.
12
A dyma'r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol,
13
A'r bod, a'r barcud, a'r fwltur yn ei rhyw,
14
A phob cigfran yn ei rhyw,
15
A chyw yr estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r hebog yn ei ryw,
16
Aderyn y cyrff, a'r dylluan, a'r gogfran,
17
A'r pelican, a'r biogen, a'r fulfran,
18
A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.
19
A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt.
20
Pob ehediad glân a fwytewch.
21
Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i'r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i'r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i'r ARGLWYDD dy DDUW. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
22
Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn.
23
A bwyta gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe i drigo o'i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a'th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a'th ddefaid; fel y dysgech ofni yr ARGLWYDD dy DDUW bob amser.
24
A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i osod ei enw ynddo, pan y'th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW:
25
Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i'r lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW:
26
A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, a llawenycha di, a'th deulu.
27
A'r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28
Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.
29
A'r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y'th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW ym mhob gwaith a wnelych â'th law.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→