bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 4
Deuteronomy 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 5 →
1
Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i'w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae ARGLWYDD DDUW eich tadau yn ei rhoddi i chwi.
2
Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.
3
Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD am Baal‐peor; oblegid pob gŵr a'r a aeth ar ôl Baal‐peor, yr ARGLWYDD dy DDUW a'i difethodd ef o'th blith di.
4
Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr ARGLWYDD eich DUW, byw ydych heddiw oll.
5
Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD fy NUW i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i'w meddiannu.
6
Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a'ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.
7
Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae DUW iddi yn nesáu ati, fel yr ARGLWYDD ein DUW ni, ym mhob dim a'r y galwom arno?
8
A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi?
9
Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i'th feibion, ac i feibion dy feibion:
10
Sef y dydd y sefaist gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, pan ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i'm hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i'w meibion.
11
A nesasoch, a safasoch dan y mynydd a'r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew.
12
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais.
13
Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i'w wneuthur, sef y dengair; ac a'u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.
14
A'r ARGLWYDD a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i'w meddiannu.
15
Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)
16
Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw,
17
Llun un anifail a'r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,
18
Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a'r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear;
19
Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua'r nefoedd, a gweled yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, sef holl lu y nefoedd, a'th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr ARGLWYDD dy DDUW i'r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
20
Ond yr ARGLWYDD a'ch cymerodd chwi, ac a'ch dug chwi allan o'r pair haearn, o'r Aifft, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.
21
A'r ARGLWYDD a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i'r wlad dda, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.
22
Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.
23
Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.
24
Oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd dân ysol, a DUW eiddigus.
25
Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW i'w ddigio ef;
26
Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a'r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i'w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y'ch difethir.
27
A'r ARGLWYDD a'ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr ARGLWYDD chwi atynt:
28
Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt ac nid aroglant.
29
Os oddi yno y ceisi yr ARGLWYDD dy DDUW, ti a'i cei ef, os ceisi ef â'th holl galon, ac â'th holl enaid.
30
Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef:
31
(Oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW trugarog;) ni edy efe di, ac ni'th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.
32
Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o'th flaen di, o'r dydd y creodd DUW ddyn ar y ddaear, ac o'r naill gwr i'r nefoedd hyd y cwr arall i'r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:
33
A glybu pobl lais DUW yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?
34
A brofodd un DUW ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid?
35
Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, nad oes neb arall ond efe.
36
O'r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i'th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.
37
Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a'th ddug di o'i flaen, â'i fawr allu, allan o'r Aifft:
38
I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o'th flaen di, i'th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw.
39
Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall.
40
Cadw dithau ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i'th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti byth.
41
Yna Moses a neilltuodd dair dinas o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad haul;
42
I gael o'r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o'r blaen; fel y gallai ffoi i un o'r dinasoedd hynny, a byw:
43
Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.
44
A dyma'r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel;
45
Dyma 'r tystiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o'r Aifft:
46
Tu yma i'r Iorddonen, yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o'r Aifft:
47
Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad haul;
48
O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw Hermon;
49
A'r holl ros tu hwnt i'r Iorddonen tua'r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth‐Pisga.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34