bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 18
Deuteronomy 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 19 →
1
Ni bydd i'r offeiriaid, i'r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, a'i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy.
2
Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3
A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i'r offeiriad yr ysgwyddog a'r ddwy ên, a'r boten.
4
Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a'th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.
5
Canys dewisodd yr ARGLWYDD dy DDUW ef o'th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr ARGLWYDD, efe a'i feibion yn dragywydd.
6
A phan ddelo Lefiad o un o'th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i'r lle a ddewiso yr ARGLWYDD;
7
Yna gwasanaethed efe yn enw yr ARGLWYDD ei DDUW, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr ARGLWYDD.
8
Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9
Pan elych di i'r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd hynny.
10
Na chaffer ynot a wnelo i'w fab, neu i'w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,
11
Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â'r meirw:
12
Oherwydd ffieidd‐dra gan yr ARGLWYDD yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu gyrru hwynt allan o'th flaen di.
13
Bydd berffaith gyda'r ARGLWYDD dy DDUW.
14
Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.
15
Yr ARGLWYDD dy DDUW a gyfyd i ti, o'th blith dy hun, o'th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch
16
Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr ARGLWYDD fy NUW, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.
17
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant
18
Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.
19
A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a'i gofynnaf ganddo.
20
Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.
21
Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD?
22
Yr hyn a lefaro'r proffwyd hwnnw yn enw yr ARGLWYDD, a'r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD; y proffwyd a'i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→