bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 10
Deuteronomy 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 11 →
1
Yr amser hwnnw y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Nadd i ti ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyred i fyny ataf fi i'r mynydd, a gwna i ti arch bren.
2
A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod dithau hwynt yn yr arch.
3
Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fyny i'r mynydd, a'r ddwy lech yn fy llaw.
4
Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y dengair, a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr ARGLWYDD hwynt ataf fi.
5
Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o'r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi.
6
A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef.
7
Oddi yno yr aethant i Gudgoda; ac o Gudgoda i Jotbath, tir afonydd dyfroedd.
8
Yr amser hwnnw y neilltuodd yr ARGLWYDD lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, i sefyll gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.
9
Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda'i frodyr: yr ARGLWYDD yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr ARGLWYDD dy DDUW wrtho ef.
10
A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr ARGLWYDD dy ddifetha di.
11
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos i'th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.
12
Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a'i garu ef, a gwasanaethu yr ARGLWYDD dy DDUW â'th holl galon, ac â'th holl enaid,
13
Cadw gorchmynion yr ARGLWYDD, a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?
14
Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr ARGLWYDD dy DDUW, y ddaear hefyd a'r hyn oll sydd ynddi.
15
Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr ARGLWYDD ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o'u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir.
16
Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach.
17
Canys yr ARGLWYDD eich DUW chwi yw DUW y duwiau, ac ARGLWYDD yr arglwyddi, DUW mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr.
18
Yr hwn a farna'r amddifad a'r weddw; ac y sydd yn hoffi'r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.
19
Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft.
20
Yr ARGLWYDD dy DDUW a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i'w enw ef y tyngi.
21
Efe yw dy fawl, ac efe yw dy DDUW yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a'r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.
22
Dy dadau a aethant i waered i'r Aifft yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr ARGLWYDD dy DDUW a'th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→