bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 13
Deuteronomy 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 14 →
1
Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod,
2
A dyfod i ben o'r arwydd, neu'r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt;
3
Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr ARGLWYDD eich DUW sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru'r ARGLWYDD eich DUW â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid.
4
Ar ôl yr ARGLWYDD eich DUW yr ewch, ac ef a ofnwch, a'i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.
5
A'r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i'ch troi chwi oddi wrth yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a'ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a'ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i'th wthio di allan o'r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg.
6
Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a'th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na'th dadau;
7
Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o'ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i'r tir hyd gwr arall y tir:
8
Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:
9
Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i'w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.
10
A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
11
A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.
12
Pan glywech am un o'th ddinasoedd y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd,
13
Aeth dynion, meibion y fall, allan o'th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch;
14
Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg;
15
Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a'r rhai oll a fyddant ynddi, a'i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf.
16
A'i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi'r ddinas a'i holl ysbail hi yn gwbl, i'r ARGLWYDD dy DDUW, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy.
17
Ac na lyned wrth dy law di ddim o'r diofryd‐beth: fel y dychwelo yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y'th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau:
18
Pan wrandawech ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→