bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 31
Deuteronomy 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 32 →
1
A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;
2
Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.
3
Yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned drosodd o'th flaen di; efe a ddinistria'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a thi a'u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o'th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.
4
A'r ARGLWYDD a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.
5
A rhydd yr ARGLWYDD hwynt o'ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi.
6
Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd.
7
A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda'r bobl yma i'r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a'i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.
8
A'r ARGLWYDD hefyd sydd yn myned o'th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.
9
A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a'i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac at holl henuriaid Israel.
10
A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll,
11
Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.
12
Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a'r plant, a'r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr ARGLWYDD eich DUW, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;
13
Ac y byddo i'w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr ARGLWYDD eich DUW, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i'w feddiannu.
14
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod.
15
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a'r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell.
16
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda'th dadau; a'r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a'm gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.
17
A'm dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a'u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a'r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?
18
Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr.
19
Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.
20
Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i'w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a'u gwasanaetha hwynt, ac a'm dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod.
21
Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i'r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i'r tir a addewais trwy lw.
22
A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a'i dysgodd hi i feibion Israel.
23
Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i'r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.
24
A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;
25
Yna y gorchmynnodd Moses i'r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
26
Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW; fel y byddo yno yn dyst i'th erbyn.
27
Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a'th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw,gwrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?
28
Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a'ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.
29
Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o'r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.
30
A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
Recommended Reading
Commentary
Deuteronomy Commentaries
→
Devotional
Deuteronomy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→