bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Deuteronomy 26
Deuteronomy 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 27 →
1
Aphan ddelych i'r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a'i feddiannu, a phreswylio ynddo;
2
Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o'th dir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i'r lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o'i enw ef ynddo:
3
A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i'r ARGLWYDD dy DDUW, fy nyfod i'r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth ein tadau ar ei roddi i ni.
4
A chymered yr offeiriad y cawell o'th law di, a gosoded ef o flaen allor yr ARGLWYDD dy DDUW:
5
A llefara dithau, a dywed gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i'r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.
6
A'r Eifftiaid a'n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.
7
A phan waeddasom ar ARGLWYDD DDUW ein tadau, clybu yr ARGLWYDD ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur, a'n gorthrymder.
8
A'r ARGLWYDD a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau.
9
Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10
Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O ARGLWYDD: a gosod ef gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac addola gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW.
11
Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, ac i'th deulu, tydi, a'r Lefiad, a'r dieithr a fyddo yn dy fysg.
12
Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm; yna y rhoddi i'r Lefiad, i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.
13
A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, Dygais y peth cysegredig allan o'm tŷ, ac a'i rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o'th orchmynion ac nis anghofiais.
14
Ni fwyteais ohono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid, ac ni roddais ohono dros y marw: gwrandewais ar lais yr ARGLWYDD fy NUW; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi.
15
Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o'r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
16
Y dydd hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a'r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â'th holl galon, ac â'th holl enaid.
17
Cymeraist yr ARGLWYDD heddiw i fod yn DDUW i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef.
18
Cymerodd yr ARGLWYDD dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion:
19
Ac i'th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD dy DDUW, megis y llefarodd efe.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34