bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 1
Proverbs 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 2 →
1
Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;
2
I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;
3
I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;
4
I roi callineb i'r angall, ac i'r bachgen wybodaeth a synnwyr.
5
Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a'r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
6
I ddeall dihareb, a'i deongl; geiriau y doethion, a'u damhegion.
7
Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
8
Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:
9
Canys cynnydd gras a fyddant hwy i'th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10
Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna.
11
Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
12
Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i'r pydew:
13
Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:
14
Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:
15
Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.
16
Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.
17
Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.
18
Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.
19
Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
20
Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:
21
Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,
22
Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
23
Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
24
Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
25
Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o'm cerydd:
26
Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;
27
Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:
28
Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y'm ceisiant, ond ni'm cânt:
29
Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:
30
Ni chymerent ddim o'm cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.
31
Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a'u llenwi â'u cynghorion eu hunain.
32
Canys esmwythdra y rhai angall a'u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a'u difetha.
33
Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31