bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 9
Proverbs 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 10 →
1
Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.
2
Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.
3
Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:
4
Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,
5
Deuwch, a bwytewch o'm bara, ac yfwch o'r gwin a gymysgais.
6
Ymadewch â'r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.
7
Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a'r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.
8
Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a'th gâr di.
9
Dyro addysg i'r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.
10
Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall.
11
Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes.
12
Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a'i dygi.
13
Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim:
14
Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,
15
I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:
16
Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,
17
Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd.
18
Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31