bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 11
Proverbs 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 12 →
1
Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.
2
Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda'r gostyngedig y mae doethineb.
3
Perffeithrwydd yr uniawn a'u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a'u difetha hwynt.
4
Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
5
Cyfiawnder y perffaith a'i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.
6
Cyfiawnder y cyfiawn a'u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.
7
Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir.
8
Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a'r drygionus a ddaw yn ei le ef.
9
Rhagrithiwr â'i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.
10
Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.
11
Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.
12
Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.
13
Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.
14
Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.
15
Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.
16
Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a'r galluog a gânt gyfoeth.
17
Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.
18
Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i'r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.
19
Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.
20
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.
21
Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.
22
Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.
23
Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.
24
Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.
25
Yr enaid hael a fraseir: a'r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.
26
Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a'i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a'i gwertho.
27
Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.
28
Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.
29
Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a'r ffôl a fydd gwas i'r synhwyrol ei galon.
30
Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a'r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.
31
Wele, telir i'r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i'r drygionus a'r pechadur?
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31