bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 24
Proverbs 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 25 →
1
Na chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:
2
Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a'u gwefusau a draetha flinder.
3
Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:
4
A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.
5
Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.
6
Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.
7
Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.
8
Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.
9
Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.
10
Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.
11
Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â'r neb sydd barod i'w lladd?
12
Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?
13
Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a'r dil mêl, canys melys yw i'th enau.
14
Felly y bydd gwybodaeth doethineb i'th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a'th obaith ni phalla.
15
Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.
16
Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrthiant mewn drygioni.
17
Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:
18
Rhag i'r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.
19
Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:
20
Canys ni bydd gwobr i'r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.
21
Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a'r brenin, ac nac ymyrr â'r rhai anwastad:
22
Canys yn ddisymwth y cyfyd eu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?
23
Dyma hefyd bethau doethion. Nid da derbyn wyneb mewn barn.
24
Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a'i melltithiant ef, cenhedloedd a'i ffieiddiant ef:
25
Ond i'r neb a'i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.
26
Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.
27
Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.
28
Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â'th wefusau.
29
Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i'r gŵr yn ôl ei weithred.
30
Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;
31
Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.
32
Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.
33
Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:
34
Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a'th angen fel gŵr arfog.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31