bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 30
Proverbs 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 31 →
1
Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal.
2
Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.
3
Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd.
4
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?
5
Holl air DUW sydd bur: tarian yw efe i'r neb a ymddiriedant ynddo.
6
Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7
Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw.
8
Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara.
9
Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy NUW yn ofer.
10
Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11
Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a'i mam ni fendithia.
12
Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.
13
Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a'i hamrantau a ddyrchafwyd.
14
Y mae cenhedlaeth a'i dannedd yn gleddyfau, a'i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a'r anghenus o blith dynion.
15
I'r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:
16
Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a'r tân ni ddywed, Digon.
17
Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a'r cywion eryrod a'i bwyty.
18
Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:
19
Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.
20
Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd.
21
Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef:
22
Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd;
23
Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i'w meistres.
24
Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:
25
Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;
26
Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;
27
Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;
28
Y pryf copyn a ymafaela â'i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.
29
Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:
30
Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;
31
Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.
32
Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.
33
Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31