bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 10
Proverbs 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 11 →
1
Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.
2
Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
3
Ni edy yr ARGLWYDD i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.
4
Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.
5
Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.
6
Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
7
Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.
8
Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp.
9
Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd, a fydd hynod.
10
Y neb a amneidio â'i lygaid, a bair flinder: a'r ffôl ei wefusau a gwymp.
11
Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
12
Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.
13
Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.
14
Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.
15
Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.
16
Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.
17
Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.
18
A guddio gas â gwefusau celwyddog, a'r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.
19
Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.
20
Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.
21
Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.
22
Bendith yr ARGLWYDD a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.
23
Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb.
24
Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, DUW a'i rhydd.
25
Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth.
26
Megis finegr i'r dannedd, a mwg i'r llygaid, felly y bydd y diog i'r neb a'i gyrrant.
27
Ofn yr ARGLWYDD a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.
28
Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.
29
Ffordd yr ARGLWYDD sydd gadernid i'r perffaith: ond dinistr fydd i'r rhai a wnânt anwiredd.
30
Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.
31
Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a'r tafod cyndyn a dorrir ymaith.
32
Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31