bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 31
Proverbs 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
1
Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.
2
Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?
3
Na ddyro i wragedd dy nerth; na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd.
4
Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:
5
Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig.
6
Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon.
7
Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.
8
Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.
9
Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a'r anghenus.
10
Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na'r carbuncl.
11
Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.
12
Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.
13
Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylo yn ewyllysgar.
14
Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.
15
Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau.
16
Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.
17
Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.
18
Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.
19
Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a'i llaw a ddeil y cogail.
20
Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylo i'r anghenus.
21
Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.
22
Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.
23
Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.
24
Hi a wna liain main, ac a'i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.
25
Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.
26
Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.
27
Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.
28
Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a'i canmol hi:
29
Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.
30
Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gaiff glod.
31
Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31