bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 26
Proverbs 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 27 →
1
Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i'r ffôl anrhydedd.
2
Fel yr aderyn wrth grwydro, a'r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw.
3
Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.
4
Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.
5
Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6
Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled.
7
Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid.
8
Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl.
9
Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall.
10
Y DUW mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i'r troseddwyr.
11
Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb.
12
A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw.
13
Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd.
14
Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely.
15
Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn.
16
Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm.
17
Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau.
18
Fel dyn gwallgofus a daflo bentewynion tân, saethau, ac arfau marwolaeth;
19
Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf?
20
Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen.
21
Fel glo i'r marwor, a choed i'r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen.
22
Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.
23
Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.
24
Y digasog a ragrithia â'i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll:
25
Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd‐dra yn ei galon ef.
26
Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa.
27
Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a'r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel.
28
Y tafod celwyddog a gasâ y neb a gystuddio efe; a'r genau gwenieithus a wna ddinistr.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31