bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 27
Proverbs 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 28 →
1
Nac ymffrostia o'r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
2
Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.
3
Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.
4
Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?
5
Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.
6
Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.
7
Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i'r newynog pob peth chwerw sydd felys.
8
Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth.
9
Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.
10
Nac ymado â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.
11
Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i'r neb a'm gwaradwyddo.
12
Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
13
Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr.
14
Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.
15
Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.
16
Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.
17
Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.
18
Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.
19
Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.
20
Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.
21
Fel y tawddlestr i'r arian, a'r ffwrnais i'r aur: felly y mae gŵr i'w glod.
22
Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.
23
Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.
24
Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?
25
Y gwair a flaendardda, a'r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.
26
Yr ŵyn a'th ddillada, ac o'r geifr y cei werth tir.
27
Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i'th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i'th lancesau.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31