bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 8
Proverbs 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
1
Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?
2
Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.
3
Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:
4
Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.
5
Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.
6
Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.
7
Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.
8
Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.
9
Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn uniawn i'r rhai a gafodd wybodaeth.
10
Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig.
11
Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.
12
Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.
13
Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gas gennyf fi.
14
Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.
15
Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna'r penaethiaid gyfiawnder.
16
Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.
17
Y sawl a'm carant i, a garaf finnau; a'r sawl a'm ceisiant yn fore, a'm cânt.
18
Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.
19
Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a'm cynnyrch sydd well na'r arian detholedig.
20
Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:
21
I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.
22
Yr ARGLWYDD a'm meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.
23
Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.
24
Pryd nad oedd dyfnder y'm cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.
25
Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y'm cenhedlwyd:
26
Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na'r meysydd, nac uchder llwch y byd.
27
Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:
28
Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder:
29
Pan roddes efe ei ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:
30
Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;
31
Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a'm hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
32
Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.
33
Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.
34
Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.
35
Canys y neb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr ARGLWYDD.
36
Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31