bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 12
Proverbs 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
1
Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.
2
Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.
3
Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.
4
Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.
5
Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.
6
Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt.
7
Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.
8
Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.
9
Gwell yw yr hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.
10
Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.
11
Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.
12
Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.
13
Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.
14
Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.
15
Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.
16
Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.
17
Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.
18
Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.
19
Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.
20
Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.
21
Ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.
22
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef.
23
Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.
24
Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.
25
Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a'i llawenha hi.
26
Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a'u twylla hwynt.
27
Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.
28
Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31