bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 15
Proverbs 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 16 →
1
Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.
2
Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.
3
Ym mhob lle y mae llygaid yr ARGLWYDD, yn canfod y drygionus a'r daionus.
4
Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.
5
Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.
6
Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.
7
Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.
8
Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.
9
Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.
10
Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a'r neb a gasao gerydd, a fydd marw.
11
Uffern a dinistr sydd gerbron yr ARGLWYDD: pa faint mwy, calonnau plant dynion?
12
Ni châr y gwatwarwr mo'r neb a'i ceryddo; ac nid â at y doethion.
13
Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd.
14
Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.
15
Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen.
16
Gwell yw ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD, na thrysor mawr a thrallod gydag ef.
17
Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.
18
Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.
19
Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad.
20
Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam.
21
Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn.
22
Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.
23
Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!
24
Ffordd y bywyd sydd fry i'r synhwyrol, i ochel uffern obry.
25
Yr ARGLWYDD a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.
26
Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.
27
Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.
28
Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.
29
Pell yw yr ARGLWYDD oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.
30
Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn.
31
Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.
32
Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.
33
Addysg doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31