bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 16
Proverbs 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 17 →
1
Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae.
2
Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion.
3
Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a'th feddyliau a safant.
4
Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a'r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg.
5
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.
6
Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.
7
Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i'r ARGLWYDD, efe a bair i'w elynion fod yn heddychol ag ef.
8
Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
9
Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef.
10
Ymadrodd DUW sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.
11
Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a'u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.
12
Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.
13
Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a'r brenin a gâr a draetho yr uniawn.
14
Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a'i gostega.
15
Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a'i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.
16
Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian.
17
Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.
18
Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.
19
Gwell yw bod yn ostyngedig gyda'r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda'r beilchion.
20
A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a'r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw!
21
Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth.
22
Ffynnon y bywyd yw deall i'w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb.
23
Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i'w wefusau.
24
Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i'r enaid, ac yn iachus i'r esgyrn.
25
Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth.
26
Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a'i gofyn ganddo.
27
Dyn i'r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.
28
Dyn cyndyn a bair ymryson: a'r hustyngwr a neilltua dywysogion.
29
Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a'i tywys i'r ffordd nid yw dda.
30
Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben.
31
Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.
32
Gwell yw y diog i ddigofaint na'r cadarn; a'r neb a reola ei ysbryd ei hun, na'r hwn a enillo ddinas.
33
Y coelbren a fwrir i'r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31