bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 22
Proverbs 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 23 →
1
Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.
2
Y tlawd a'r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.
3
Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
4
Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd.
5
Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.
6
Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.
7
Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i'r gŵr a roddo fenthyg.
8
Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.
9
Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o'i fara i'r tlawd.
10
Bwrw allan y gwatwarwr, a'r gynnen a â allan; ie, yr ymryson a'r gwarth a dderfydd.
11
Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.
12
Llygaid yr ARGLWYDD a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.
13
Medd y diog, Y mae llew allan; fo'm lleddir yng nghanol yr heolydd.
14
Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr ARGLWYDD yn ddig wrtho, a syrth yno.
15
Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a'i gyr ymhell oddi wrtho.
16
Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a'r neb a roddo i'r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.
17
Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.
18
Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.
19
Fel y byddo dy obaith yn yr ARGLWYDD, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.
20
Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,
21
I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i'r neb a anfonant atat?
22
Nac ysbeilia mo'r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.
23
Canys yr ARGLWYDD a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a'u gorthrymo hwynt.
24
Na fydd gydymaith i'r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:
25
Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i'th enaid.
26
Na fydd un o'r rhai a roddant eu dwylo, o'r rhai a fachnïant am ddyled.
27
Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat?
28
Na symud mo'r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.
29
A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31