bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 3
Proverbs 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
1
Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:
2
Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.
3
Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
4
Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion.
5
Gobeithia yn yr ARGLWYDD â'th holl galon; ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun.
6
Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7
Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.
8
Hynny a fydd iechyd i'th fogail, a mêr i'th esgyrn.
9
Anrhydedda yr ARGLWYDD â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth:
10
Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a'th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
11
Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;
12
Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a'i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
13
Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r dyn a ddygo ddeall allan.
14
Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.
15
Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.
16
Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.
17
Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch.
18
Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.
19
Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.
20
Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
21
Fy mab, na ollwng hwynt allan o'th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.
22
Yna y byddant yn fywyd i'th enaid, ac yn ras i'th wddf.
23
Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a'th droed ni thramgwydda.
24
Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a'th gwsg fydd felys.
25
Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.
26
Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
27
Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.
28
Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.
29
Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
30
Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
31
Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o'i ffyrdd ef.
32
Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda'r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
33
Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
34
Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i'r gostyngedig.
35
Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31