bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 13
Proverbs 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 14 →
1
Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.
2
Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.
3
Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.
4
Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.
5
Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.
6
Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.
7
Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.
8
Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.
9
Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.
10
Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda'r pwyllog y mae doethineb.
11
Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â'i law a chwanega.
12
Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.
13
Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.
14
Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.
15
Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
16
Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.
17
Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.
18
Tlodi a gwaradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.
19
Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.
20
Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.
21
Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i'r rhai cyfiawn.
22
Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i'r cyfiawn.
23
Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.
24
Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a'i câr ef, a'i cerydda mewn amser.
25
Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31