bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Proverbs 2
Proverbs 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 3 →
1
Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
2
Fel y parech i'th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;
3
Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;
4
Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;
5
Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.
6
Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o'i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.
7
Y mae ganddo ynghadw i'r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i'r sawl a rodiant yn uniawn.
8
Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.
9
Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10
Pan ddelo doethineb i mewn i'th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;
11
Yna cyngor a'th gynnal, a synnwyr a'th geidw:
12
I'th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;
13
Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;
14
Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;
15
Y rhai sydd â'u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:
16
I'th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;
17
Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.
18
Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a'i llwybrau at y meirw.
19
Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.
20
Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.
21
Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a'r rhai perffaith a gânt aros ynddi.
22
Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a'r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31